Untitled

Croeso i Wefan Ysgol Feithrin Rhydaman

“Gofalu am eich plentyn.  Rhannu yn eu dyfodol “

Mae’n rhoi pleser mawr i mi i gyflwyno i chi, trwy gyfrwng y Wefan hon, rhywfaint o wybodaeth am Ysgol Feithrin Rhydaman. Pwrpas y wybodaeth yw eich galluogi i gael dealltwriaeth o fywyd ac ethos yr ysgol.

Yma yn Ysgol Ysgol Feithrin, rydym yn cydnabod bod perthynas gynhyrchiol rhwng y cartref a’r ysgol yn hanfodol, er mwyn meithrin ymdeimlad o bartneriaeth rhwng rhieni ac athrawon ac i sicrhau yr amgylchedd dysgu gorau posibl ar gyfer eich plentyn.

Mae Ysgol Feithrin Rhydaman yn ysgol hapus, ac mae hyn yn deillio o’r cyfleoedd a gynigir i bawb. Mae cyfranogiad a llwyddiant mewn nifer o ymdrechion yn galluogi disgyblion, rhieni, staff, llywodraethwyr, y gymuned a’r Awdurdod Addysg Lleol i fod yn haeddiannol falch o’u cysylltiad â’r ysgol. 

Nod yr ysgol yw i ddatblygu’r plentyn i fod yn ddysgwr annibynnol mewn amgylchedd sy’n hybu hunan ddisgyblaeth a hunan barch.

Rwy’n edrych ymlaen i’ch croesawu chi a’ch plentyn i Ysgol Feithrin Rhydaman.

 Yr eiddoch yn gywir,

Mrs N Phillips  – Pennaeth