Ein Datganiad Gweledigaeth

“Gofalu am eich plentyn.  Rhannu yn eu dyfodol”

Sicrhau bod pob plentyn yn cyflawni. Ein nod yw creu lle i bawb. Gyda’n gilydd cawn ein hysbrydoli i dyfu, a blodeuo i fod yn ddysgwyr annibynnol.

Datganiad cenhadaeth

Ein genhadaeth yma yn Ysgol Feithrin Rhydaman yw datblygu unigolion iach, parchus ac annibynnol sy’n anelu at gyflawni eu potensial llawn. Plant sy’n cydymdeimlo ag eraill, sy’n derbyn ac yn dathlu gwahaniaethau ac yn gofalu am y byd o’u cwmpas.

Rydym yn hyrwyddo pwysigrwydd creu a chynnal perthnasoedd iach, cadarnhaol ac yn blaenoriaethu eu lles meddyliol ac emosiynol yn ogystal â’u hiechyd corfforol.

Byddwn yn eu helpu ar eu taith trwy ddarparu amgylchedd dysgu diogel, hapus a chynhwysol lle mae hawliau’r plentyn yn cael eu gwerthfawrogi, a phob agwedd ar draddodiadau Cymru yn cael ei ddathlu.

Ein nod yw eu hysbrydoli i feddwl yn greadigol, cefnogi a meithrin y plant i fod yn ddysgwyr gydol oes a meithrin teimlad o berthyn i gymuned yr ysgol, yr ardal leol, Cymru a’r byd.”