Cwricwlwm i Gymru

Yma yn Ysgol Feithrin Rhydaman rydym yn dilyn y cwricwlwm ar gyfer lleoliadau Meithrin a ariennir nas cynhelir.

“Mae’r cwricwlwm hwn yn anelu at greu mewn plant dueddiadau cadarnhaol tuag at ddysgu a fydd, o’u meithrin, yn para am oes ac yn darparu’r sylfaen gadarn sydd ei hangen ar bob un o’n plant i’w cefnogi i wireddu pedwar diben Cwricwlwm i Gymru.”

Byddwn yn rhoi’r dechrau gorau i addysg eich plant trwy ofalu amdanynt a’u cefnogi ar eu taith i ddod yn:

  • Dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu trwy gydol eu hoes
  • Cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith
  • Dinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion Cymru a’r byd
  • Unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas

Y 5 Llwybr Datblygiadol

Yn ganolog i’r cwricwlwm mae’r pum llwybr datblygiadol allweddol sy’n hanfodol i ddysgu a datblygiad pob plentyn ifanc.
Maent yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig i’r plentyn, ac yn cysylltu’n agos ag egwyddorion allweddol datblygiad plentyn:

– Perthyn

– Cyfathrebu

– Archwilio

– Datblygiad Corfforol

– Lles

Mae llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn sgiliau gorfodol ym mhob rhan o’r cwricwlwm cyfan.

Mae gan bob llwybr resymeg glir sy’n cyfleu hanfod yr hyn y mae angen i blant ei ddatblygu ar eu cyflymder eu hunain mewn ffordd sy’n briodol iddyn nhw. Mae’r medrau yn blentyn-ganolog ac yn defnyddio datganiadau sy’n adlewyrchu’n gadarnhaol y plant gan gydnabod eu cynnydd, megis

“Mae angen i mi…”

“Rwy’n dysgu sut i …”.

“Mae fy … yn cael ei gyfoethogi gan …”

Mae ein holl gynllunio yn canolbwyntio ar lais y plentyn, diddordebau a hobïau’r plentyn, dysgu yn yr awyr agored a llythrennedd corfforol. Ynghyd â oedolion sy’n galluogi dysgu ac amgylchedd effeithiol, byddwn yn sicrhau bod y plant wedi’u harfogi’n dda i ddatblygu eu sgiliau ar ddechrau eu taith addysgol yma yn Ysgol Feithrin Rhydaman.